Cylch Cerrig Gors Fawr
Mynachlogddu a Llangolman
Mae plwyfi hynafol Mynachlogddu a Llangolman wedi eu lleoli ar lethrau deheuol Mynyddoedd y Preseli. Mae’r enw Mynachlogddu yn gyfeiriad at fynachod duon Abaty llandudoch a arferent ddefnyddio’r tir i bori defaid. Mae enw Llangolman yn deillio o gyfnod Cristnogaeth gynnar. Credir mai Cristion Gwyddelyg oedd Colman.
Ar Gors Fawr Mynachlogddu saif yr unig gylch cerrig ar Y Preselau. Credir ei bod yn dyddio nol i tua 3000 cc.
Yn ail hanner y 19eg ganrif agorwyd chwareli llechi. Y ddau fwyaf enwog oedd Cwarre Tyrch ym Mynachlogddu a oroesodd hyd wedi’r Rhyfel Mawr a Chwarre Llechi Gwyrdd Gilfach. Defnyddiwyd llechi o’r Preseli ar gyfer nifer o adeiladau enwog.
Mae yn y plwyfi feini er cof am bobl dylanwadol yr ardal. Saif Carreg Goffa Waldo Williams (1904 – 1971) ar Gomin Gors Fawr i gofio am yr heddychwr a’r bardd cenedlaethol a dreuliodd ran o’i blentyndod ym Mynachlogddu lle ‘roedd ei dad yn brifathro yn yr Ysgol Gynradd. Ger Fferm Glynsaithmaen saif Carreg Goffa i WR Evans, bardd, athro a chymeriad uchel ei barch. Sefydlodd ‘Bois y Frenni’ yn ystod cyfnod tywyll yr Ail Ryfel Byd, sef criw o ddynion dawnus a fyddai’n mynd o amgylch yn diddanu cynulleidfaoedd trwy ganeuon a sgetsys doniol. WR oedd awdur y caneuon poblogaidd yma ac maent yn dal i’w clywed heddi gan fois ifanc yr ardal. Yng Nghapel Bethel Mynachlogddu gwelir carreg fedd Twm Carnabwth sef arweinydd Terfysg Beca (1839). Gwisgodd nifer o ddynion yr ardal fel menywod a chwalu’r tollborth a oedd ar y ffordd y defnyddiwyd ganddynt i gario calch, a hynny fwy nag unwaith.